Sefydlwyd Clwb Cinio Cylch Tregaron ym mis Ebrill 2001, ac er hynny mae wedi mynd o nerth i nerth gyda rhif yr aelodau wedi cynyddu i dros gant erbyn hyn. Cangen o Gyngor Henoed Ceredigion ydyw, ond y clwb sydd yn gyfrifol am godi arian i’w gynnal, ac i’r pwrpas hwn mae yna bwyllgor o wyth o wirfoddolwyr sydd yn cynnwys, cadeirydd, is-gadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd.
Yn ogystal â’r cinio misol – gydag amrywiaeth helaeth o adloniant yn dilyn,- mae yna amryw o weithgareddau eraill yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn, megis mynd i weld panto, sioe gerdd, taith ddirgel a thrip siopa Nadolig a thripiau eraill. Mae’r aelodau wrth eu bodd yn dod at ei gilydd fel hyn i gymdeithasu,ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at unrhyw gyfle i gyfarfod ac i fwynhau cwmnïaeth. Ym Mis Awst cynhelir prynhawn“ te a sconen” sydd yn fodd i godi arian i’r clwb. Hefyd mae’r clwb yn codi arian trwy gynnal raffl fawr bob blwyddyn a rafflau bychan ymhob cinio ac ati. Hefyd, bu’r clwb yn ffodus iawn i ennill grant o wahanol fudiadau dosbarthu arian ac mae’r clwb yn ddiolchgar iawn iddynt ac i’r cynghorau cymuned yn y cylch sydd wedi cyfrannu i’r gronfa. Felly mae’r swyddogion yn gweithio’n galed i godi arian ac i drefnu gwahanol weithgareddau ond maent yn ddyledus i unigolion a mudiadau am eu cefnogaeth hefyd.
Wrth gwrs, ni fyddai clwb yn bosib o gwbl heb y rhai sy’n mynychu’r cinio, ac yn llenwi’r bysiau ac yn y blaen. Hwy yw ysbrydoliaeth y cyfan.
[This article is about the Tregaron and surrounding communities lunch club which was established in April 2001. The club has over a hundred members and apart from the monthly lunch, other activities are arranged e.g. trips, garden shows etc. It is an excellent place to meet and socialize not only with old friends, but an opportunity to make new friends. The club has received a grant and donations from various organizations and local community councils, for which they are very grateful. Thanks are also give to those groups and individuals who have contributed financially or who have given of their time, or helped in any other way. Also a big thank you to the club members - they are the inspiration for the club.]
No comments:
Post a Comment